≫ Open Doors 2023 Medi 9fed and 10fed: Manylion yma gan gynnwys taflen
Bob mis Medi mae drysau rhai o adeiladau gorau a mwyaf swynol Rhuthun yn agor i’r cyhoedd, fel arfer yn rhad ac am ddim. Mae hefyd teithiau tywys, gweithgareddau ac arddangosfeydd yn galluogi pawb i fwynhau a gwerthfawrogi treftadaeth rhyfeddol Rhuthun ac yn rhoi mewnweliad i’r ffordd y mae’r dref wedi datblygu dros y canrifoedd.
Yn 1991 dechreuodd Cyngor Ewrop gynnal Diwrnodau Treftadaeth Ewrop ( neu Drysau Agored ). Yng Nghymru, mae Ymddiriedolaeth Ddinesig Cymru yn cydrefnu ar ran CADW ( gwasanaeth hanesyddol amgylchedd Llywodraeth Cymru ). Maent yn cynnig cyfle unigryw i ymweld ag amrywiaeth o adeiladau, nifer ohonynt fel arfer ar gau i’r cyhoedd.
Yn Sir Ddinbych, Rhuthun gan amlaf sydd a’r digwyddiad lleol mwyaf a gorau.
Fel cyd-drefnwyr mae Cymdeithas Ddinesig Rhuthun a’r Cylch yn chwarae rhan bwysig i wneud pethau i ddigwydd yn lleol, ac yn y chwe blynedd diwethaf wedi gweithio gyda Dinbych a chymdeithasau dinesig eraill, sydd a phenwythnosau tebyg, i roi profiad treftadaeth ar draws de Sir Ddinbych ym mis Medi.
Mae manylion am ddigwyddiadau a gweithgareddau i’w gweld bob haf ar y safle hon.